Lleoliad:
Fideogynhadledd ar Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 18 Mehefin 2020
Amser:
13.39 -
16.22
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6371
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Dawn Bowden AS (Cadeirydd) Huw Irranca-Davies AS Dai Lloyd AS David J Rowlands AS |
Staff y Pwyllgor: |
Helen Finlayson (Clerc) Gerallt Roberts (Dirprwy Glerc) Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol) Tom Lewis-White (Ymchwilydd) |
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod; ni chafwyd ymddiheuriadau.
1.2 Cytunodd yr aelodau y dylid penodi Huw Irranca-Davies AS yn Gadeirydd Dros Dro pe na bai'r Cadeirydd yn gallu gweithredu o ganlyniad i anawsterau technegol.
2 Trafod y materion allweddol
2.1 Trafododd y Pwyllgor faterion allweddol mewn perthynas â’i ymchwiliadau, a chytunodd i geisio rhagor o dystiolaeth ysgrifenedig.
3 Ethol Senedd fwy amrywiol: tystiolaeth ysgrifenedig
3.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law.
4 Papurau i’w nodi
4.1 Nodwyd y papurau.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o gyfarfod nesaf y Pwyllgor
5.1 Derbyniwyd y cynnig.